Bwletin Haf
Gair gan y Pennaeth Mrs Heather Lewis
Dyma ddiwedd ar flwyddyn lwyddiannus a phrysur arall. Mae’r ysgol wedi profi llwyddiant academaidd sylweddol yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf diolch i waith caled iawn staff a disgyblion a’ch cefnogaeth amhrisiadwy chi fel rhieni. Pob dymuniad da i’r rhai hynny sydd wedi sefyll arholiadau allanol eleni.
Mae llu o weithgareddau corfforol, diwylliannol ac allgyrsiol eraill wedi cael eu cynnig dros y flwyddyn ac anogwn ddisgyblion i fanteisio ar bob cyfle. Braf datgan ein bod wedi codi dros £7,124.81 hefyd ers mis Medi at achosion da fel cymuned ysgol.
Teimlaf yn freintiedig o fod wedi cael bod yn Bennaeth ar ysgol mor arbennig dros yr wyth mlynedd diwethaf a byddaf yn gadael gydag atgofion i’w trysori. Hoffwn ddymuno’n dda i Mr Evans wrth iddo gymryd yr awenau fel Pennaeth ym mis Medi ac i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol. Diolch o galon i chi i gyd.
Trefniadau Diwedd Tymor
Gorffennaf 21ain | Diwrnod olaf y tymor |
Canlyniadau Arholiadau
Ar ddiwrnodau canlyniadau arholiadau, rydyn ni’n gofyn i rieni a disgyblion ddod i’r gampfa i gasglu canlyniadau.
Lefel A blwyddyn 13 | 8:00yb Awst 17eg |
Uwch Gyfrannol blwyddyn 12 | 10:00yb Awst 17eg |
TGAU blwyddyn 11 | 8:00yb Awst 24ain |
TGAU blwyddyn 10 | 10:00yb Awst 24ain |
Trefniadau Medi
Bydd yr ysgol yn ail agor i staff ar Fedi’r 4ydd. Bydd yr ysgol yn agor i ddisgyblion blynyddoedd 7, 12 a 13 ar ddydd Mawrth Medi’r 5ed ac ar agor i’r holl ddisgyblion ar ddydd Mercher Medi’r 6ed.