Noson Rhieni bugeiliol blwyddyn 7
Cynhelir Noson Rieni Bugeiliol Blwyddyn 7 ar brynhawn Iau, Medi 20fed, 2018 rhwng 3.45 a 6.15 o’r gloch.
Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i chi ddod i gael trafodaeth gyda’r tiwtor dosbarth i weld sut mae eich plentyn wedi ymgartrefu’n gymdeithasol ers dechrau’r tymor yn y Strade. Bydd y tiwtor dosbarth yn trafod defnydd y Llyfr Cyswllt yn ystod y sesiwn, felly gofynnwn yn garedig i chi ddod â’r llyfr yma gyda chi.
Byddwn yn defnyddio system apwyntiadau 5 munud a gofynnwn yn garedig i chi gyrraedd 10 munud cyn yr apwyntiad er mwyn hwyluso trefniadau’r noson. Disgwylir i’ch plentyn wneud apwyntiad gyda’r tiwtor dosbarth yn ystod yr wythnos hon.
Ni fydd y tiwtor dosbarth yn trafod materion yn ymwneud â gallu academaidd eich plentyn a’r system fandio. Bydd cyfle i drafod cynnydd academaidd eich plentyn gyda’r athrawon pwnc unigol yn ystod Noson Rieni Blwyddyn 7 ar nos Iau, Tachwedd 22ain.
Bydd aelodau o’r UDA a’r Pennaeth Safonau yn bresennol yn ystod y noson er mwyn ateb unrhyw gwestiynau pellach. Gobeithiwn yn fawr y medrwch fod yn bresennol.