Annwyl Riant/Gwarchodwr,
Yn gyntaf hoffwn ymgymryd â’r cyfle hwn i’ch croesawu i Ysgol Y Strade. Mae’r awdurdod lleol bellach wedi cadarnhau lle i’ch plentyn yn Y Strade ar gyfer Medi 2019 ac mae’n bleser gennyf gyflwyno digwyddiadau’r wythnosau nesaf i chi. Ein bwriad yw ceisio gwneud y broses o gyfnewid ysgol mor llyfn a di-straen â phosib.
Mae trefniadau eisoes ar y gweill i helpu’ch plentyn i ymgartrefu yn Y Strade.
- 3/7/19: Gwahoddir chi fel rhieni i’r Strade am 6:00yh i glywed am y trefniadau yn yr ysgol, a chwrdd â thiwtor cofrestru a mentor eich plentyn. Cyfarfod tuag awr o hyd fydd hwn.
- 4/7/19: Blas ar ddiwrnod yn y Strade gan dreulio amser mewn gwersi.
- Bydd angen i chi sicrhau bod gan eich plentyn tua £3.50 er mwyn talu am fwyd yn y ffreutur, fodd bynnag os dymunwch, mae croeso i chi ddarparu bocs bwyd i‘ch plentyn.
- Bydd angen bag a chas pensil sydd ag o leiaf feiro, pensil, pren mesur, naddwr, a rwber ynddo.
- Bydd eich ysgol gynradd yn derbyn gwybodaeth yn fuan am gludiant i’ch plentyn i’r ysgol ar y diwrnod. Nid yw pawb yn gymwys i dderbyn lle ar fws ysgol felly gofynnwn yn garedig i chi sydd ddim yn gymwys i wneud trefniadau i gludo eich plentyn i, a chasglu eich plentyn o’r ysgol {gweler amseroedd isod}. Rhai nodi mae trefniadau am y diwrnod yn unig bydd rhain, ac mae’n bosib bydd y trefniadau yn wahanol i’ch plentyn yn mis Medi.
Trefn y dydd
8:20-8:35 | Disgyblion yn cyrraedd yr ysgol |
8:40 – 9:00 | Cwrdd â thiwtoriaid cofrestru yn y Neuadd a chlywed trefniadau’r dydd. |
9:00 – 11:00 | Gwers 1 a 2 |
11:00 – 11:15 | Amser egwyl, (bydd diodydd oer a byrbrydau ar werth yn y ffreutur am bris rhesymol) |
11:15 – 12:15 | Gwers 3 |
12:15 – 13:15 | Cinio. (pryd gosod £2.50) |
13:15 15:00 | Gwers 4 &5 |
15:00 | Disgyblion yn symud i’r arosfa bws. |
Dyddiadau dechrau tymor mis Medi
- 2/9/19: Hyfforddiant mewn swydd i staff, dim ysgol i ddisgyblion.
- 3/9/19: Diwrnod cyntaf y flwyddyn i ddisgyblion blwyddyn 7, 12 a 13.
Os ydych am holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r manylion uchod peidiwch ag oedi i gysylltu â mi drwy e-bost swyddfa@strade.sirgar.sch.uk, neu ar rif ffôn yr ysgol. Gallwch ddod o hyd y fwy o wybodaeth ar wefan yr ysgol www.ysgolystrade.cymru neu ar trydar @Ysgol_Strade.