Addysg bersonol a chymdeithasol

Prif nod y cynllun yw rhoi sylw teilwng i ddatblygiad personol holl bwysig y disgyblion rhwng 11-18 oed, trwy gynnig profiadau addysgol a fydd yn gymorth iddynt yn emosiynol ac yn gymdeithasol ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd. Mae angen i’r cwricwlwm hybu datblygiadau ysbrydol, moesol, diwylliannol, a chorfforol, trwy gynnig darpariaeth drawsgwricwlwaidd trwy nifer o ddisgyblaethau.

Dyma’r meysydd y bydd angen eu cynnwys yn y rhaglen ABCh: Iechyd a Lles Emosiynol, Dinasyddiaeth weithgar, Datblygiad moesol ac ysbrydol, Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes, Addysg Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth fyd – eang.

Rhoir blaenoriaeth i’r rhain er mwyn meithrin rhinweddau neu nodweddion personol megis: hunanymwybyddiaeth, cyfrifoldeb unigol a chymdeithasol, blaengaredd, ymwybyddiaeth o Gymreictod, empathi, sgiliau datrys problemau, a medrau dysgu.

Polisi anghenion dysgu ychwanegol

Mae nod ac amcanion yr ysgol yn datgan ei bod yn ceisio darparu ar gyfer pob disgybl. Mae hyn yn cynnwys pob disgybl sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Yn unol â nod ac amcanion cyffredinol yr ysgol, mae’r ysgol am wneud ei gorau dros a chael y gorau allan o bob disgybl sydd ag ADY.

Gall yr angen addysgiadol arbennig fod yn deillio o nifer o agweddau gan gynnwys: cyrhaeddiad academaidd isel, anabledd corfforol, anghenion seicolegol, cefndir cymdeithasol, anhawster dysgu penodol, dysgwr araf, ymddygiad anghymdeithasol.

Disgyblion Abl a Dawnus

Mae ein hysgolion cynradd yn rhannu gwybodaeth gyda’r Strade ar ddoniau a thalentau disgyblion cyn iddyn nhw gyrraedd. Ceir cyfleoedd eang yn gwricwlaidd ac allgyrsiol i ddisgyblion abl a dawnus ar draws y pynciau. Defnyddir data cyrhaeddiad a thargedau heriol i adnabod a herio disgyblion i ragori.

Cynllun Hygyrchedd

Ers sawl blwyddyn bellach mae safle ac adeilad Ysgol Y Strade yn hygyrch ar gyfer disgyblion ac oedolion gydag ystod o anableddau a defnyddwyr cadair olwyn. Mae’r datblygiadau newydd yn cynnwys tai bach ar gyfer yr anabl a lifftiau, i’r lloriau uwch.

Addysg Rhyw a Pherthynas ag Eraill

Fe weithredwn ni yn unol â pholisi Pwyllgor Addysg Sir Caerfyrddin ar Addysg Rhyw yn y cwricwlwm. Fe wynebwn Rhyw trwy fframwaith rhyngddisgyblaethol. Fe fydd y ddarpariaeth yn rhan hanfodol o gwricwlwm yr ysgol yn unol â’r canlynol:

  • Oed, aeddfedrwydd, datblygiad a  daliadau’r disgyblion.
  • Fe fydd y meysydd llafur sy’n cynnwys  Addysg Rhyw a Pherthnasedd yn rhoi  ystyriaeth i bynciau moesol, gwerth bywyd  teuluol, oed, aeddfedrwydd a datblygiad  y disgyblion.
  • Gofynion meysydd llafur Addysg Iechyd ac  Addysg Foesol a ddysgir fel rhan o Addysg  Bersonol a Chymdeithasol i bob disgybl yn  yr ysgol (fel cwrs cyflawn ym Mlynyddoedd 10, 11, 12, 13 ac fel rhan o  wers ABCh ym Mlynyddoedd 7-9).
  • Gofynion meysydd llafur Gwyddoniaeth  (TGAU) i ddisgyblion ym Mlynyddoedd  10 ac 11.

ADCDF

Mae’r ysgol yn hybu Addysg Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ar draws y cwricwlwm. Mae’r gweithgor Eco yn gweithio’n ddyfal i godi ymwybyddiaeth o amddiffyn yr amgylchedd a gwella ardaloedd o dir yr ysgol.

Elusennau

Mae’r ysgol yn cyfrannu’n hael iawn tuag at ystod eang o wahanol elusennau, lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac anogir disgyblion yn gyson i feddwl am eraill llai ffodus na nhw’u hunain.

Ysgol Iach

Mae’r Strade yn rhan o gynllun Ysgolion Iach Sir Gaerfyrddin.
“Mae ysgol iach yn un sy’n llwyddo i helpu disgyblion i wneud eu gorau ac adeiladu ar eu llwyddiannau”.
Hybir pob agwedd ar iechyd da – emosiynol, meddyliol a chorfforol. Ceir ethos bositif lle mae pob aelod o gymuned yr ysgol yn bwysig.

Masnach Deg

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i hybu Masnach Deg trwy werthu a defnyddio nwyddau Masnach Deg lle bo’n bosib ac i ddysgu am faterion Masnach Deg mewn gwersi.

Cwnsela Disgyblion

Mae Cwnselydd cymwys yn dod i’r ysgol yn rheolaidd i gwrdd â disgyblion sy’n dymuno trafod materion sy’n achosi pryder personol iddynt. Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatau unigolion ifanc i feithrin hunan-barch, hyder a sgiliau ymdopi effeithiol a’i alluogi i ymdopi ag unrhyw argyfwng sy’n codi. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, yn ddiogel, yn hygyrch ac o safon uchel.

Addysg Grefyddol

Mae Addysg Grefyddol ar gael i bob disgybl. Dysgwylir i bob disgybl gymryd rhan mewn cydaddoli dyddiol. Mae rhaglen cydaddoli dyddiol yr Ysgol yn cynnwys rhai gwasanaethau neuadd gwasanaethau blwyddyn a gwasanaethau dosbarth tiwtor ac mae wedi’i seilio a themau crefyddol neu themau sydd a phwyslais moesol neu ysbrydol iddynt. Pan nad yw disgyblion yn mynychu Gwasanaeth, cynhelir gweithred o addoli, sydd gan amlaf yn Gristnogol ei natur, yn yr ystafelloedd Dosbarth. Dylai rhieni sydd yn arfer eu hawl i eithrio eu plant o Addysg Grefyddol neu o’r gwasanaethaugysylltu a’r Pennaeth.