Astudiaethau Crefyddol

Rhagair

Nôd ac amcan y cwrs yw darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddilyn cwrs sy’n cydbwyso gwybodaeth am gredoau craidd, dysgeidiaethau ac arferion o ddwy grefydd, sef Cristnogaeth ac Islam gyda dealltwriaeth o sut y gellir eu cymhwyso at themâu athronyddol a moesegol. Bydd disgyblion hefyd yn astudio themau athronyddol ac yn edrych ar gredoau Dyneiddwyr ac Anffyddwyr fel rhan o’r cwrs. Bydd astudio’r cwrs yn

  • atgyfnerthu eu dealltwriaeth o’r berthynas rhwng pobl
  • dysgu am safbwyntiau cyffredin a dargyfeiriol mewn traddodiadau o ran y ffordd y mae credoau a dysgeidiaethau yn cael eu deall a’u mynegi
  • dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ffaith bod traddodiadau crefyddol Prydain yn Gristnogol yn bennaf
  • deall bod traddodiadau crefyddol ym Mhrydain yn amrywiol a’u bod yn cynnwys y crefyddau canlynol: Islam, yn ogystal â chredoau anghrefyddol megis anffyddiaeth a dyneiddiaeth.

Mae TGAU CBAC mewn Astudiaethau Crefyddol yn seiliedig ar faterion crefyddol, athronyddol a moesegol yn y byd modern. Mae’n rhoi cyfle i ddysgwyr ddeall mwy am y byd, yr heriau crefyddol sy’n ei wynebu a’u lle yn y byd hwnnw. Bydd dilyn y cwrs TGAU hwn yn atgyfnerthu dealltwriaeth o grefyddau a’u heffeithiau ar gymdeithas. Bydd yn datblygu cymhwysedd dysgwyr mewn perthynas ag ystod eang o sgiliau ac ymagweddau ac yn galluogi pobl ifanc i fod yn grefyddol wybodus ac ystyriol, ac yn ddinasyddion sydd wedi’u hymgysylltu.

Mae Astudiaethau Crefyddol yn gallu bod o gymorth mewn nifer o swyddi megis

  • Yr Heddlu
  • Iechyd (Nyrsio ayyb)
  • Y Gyfraith
  • Gofal cymdeithasol
  • Gwasanaethau sifil
  • Pensaerniaeth
  • Cwnselydd
  • Addysg
  • Gweithiwr Ieuenctid
  • Ymchwilydd

Asesu

Blwyddyn 10-

Uned 1: Crefydd a Themâu Athronyddol

Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 50% o’r cymhwyster                                                             126 marc

Rhan A: Astudio elfennau pwysicaf Cristnogaeth ac Islam gan edrych ar y cysyniad o Dduw, arferion gweddi, maddeuant, cariad, ympryd, dathlu i enwi ond rhai

Rhan B: Astudio’r ddwy thema athronyddol (isod) o safbwynt Cristnogaeth ac Islam

  1. Bywyd a Marwolaeth
  2. Daioni a Drygioni

Hefyd, mae’n rhaid i bob ymgeisydd ystyried credoau anghrefyddol, megis y rhai sy’n cael eu harddel gan Ddyneiddwyr ac Anffyddwyr wrth drafod bywyd a marwoaleth.

Blwyddyn 11 –

Uned 2 – Uned 2: Crefydd a Themâu Moesegol

Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 50% o’r cymhwyster                                                                       126 marc

Rhan A: Astudio dwy gred/dysgeidiaeth greiddiol benodedig Cristnogaeth ac Islam.

Rhan B: Astudio dwy thema foesegol o bersbectif Cristnogaeth ac Islam

  1. Perthnasoedd
  2. Hawliau Dynol

Corff Arholi

 Pennaeth Adran: Mrs Llinos Jones