Gwasanaeth Cwnsela

Mae Cwnselydd cymwys yn dod i’r ysgol yn reolaidd i gwrdd â disgyblion sy’n dymuno trafod materion sy’n achosi pryder personol iddynt. Mae’r gwasanaeth hwn yn caniatau unigolyn ifanc i feithrin hunan-barch, hyder a sgiliau ymdopi effeithiol a’i alluogi i ymdopi ag unrhyw argyfwng sy’n codi. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, yn ddiogel, yn hygyrch ac o safon uchel.