Cwnsela Ysgol

Mae Ardal43 yn elusen sydd wedi bod yn darparu cymorth a gwybodaeth i bobl ifanc ers 1996. Maent yn cynnig cymorth annibynnol i bobl ifanc o fewn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac mae’r cymorth ar gael i bob unigolyn rhwng 10 a 18 o fewn ysgolion.

Mae’r cymorth maent yn ei roi yn hollol gyfrinachol ac yn cynorthwyo disgyblion gyda phob math o anghenion. Mae pob cwnselydd sydd yn gweithio yn Ysgol Y Strade wedi derbyn hyfforddiant llawn ac yn gymwys i gefnogi disgyblion o bob cefndir.

Mae unrhyw gyfeiriad at y cwnselydd yn cael ei drin gyda chyfrinachedd llwyr ac nid yw’r cwnselwyr yn trafod materion y disgybl gydag unrhyw aelod o staff. Yr unig sefyllfa pan fydd rhaid rhannu gwybodaeth yw pan mae yna faterion diogelu neu amddiffyn plant yn codi.

Plant

Gallwch gyfeirio eich hun i’r cwnselydd drwy:

  • Gysylltu â Mrs Heulwen Jones yn ei swyddfa.
  • Trafod y mater gyda’ch tiwtor dosbarth/Pennaeth Safonau
  • Cysylltu yn uniongyrchol ar 0800 0385778
  • E-bostio – counselling@area43.co.uk

Rhaid ystyried efallai bydd yna gyfnod o aros nes bod apwyntiad yn rhydd. Mae’r cwnselwyr yn bresennol yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Iau a Gwener ac mae sesiynau rhwng awr a 45m o hyd.

Rhieni

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth neu am gymorth, croeso i chi gysylltu â Mrs Heulwen Jones yn yr ysgol, yn uniongyrchol ar 0800 0385778 neu drwy e-bost counselling@area43.co.uk

Rhaid ystyried efallai bydd yna gyfnod o aros nes bod apwyntiad yn rhydd. Mae’r cwnselwyr yn bresennol yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Iau a Gwener ac mae sesiynau rhwng awr a 45m o hyd.

Rhifau Ffôn Defnyddiol

  • Childline: 0800 1111

  • Samaritans: 116 123

  • Domestic Violence Hotline: 0808 2000 247

  • Mind: 0300 123 3393

  • Age Uk: 0800 169 6565

Cysylltu

Area 43

0800 0385778

Cyfeiriad

1 Pont y Cleifion,

Aberteifi,

Ceredigion,

SA43 1DW