Cymdeithas Rhieni ac Athrawon
Etholir Pwyllgor yn y cyfarfod cyntaf ac fe gynhelir Cyfarfod Blynyddol wedyn ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Yn yr un modd etholir aelodau o’r Athrawon ar y Pwyllgor. Bwriedir cael aelodau o’r rhieni ar y Pwyllgor o bob rhan o dalgylch eang yr ysgol. Hefyd bydd chwech o’r rhieni ar Fwrdd Rheolwyr yr ysgol. Gobeithir y bydd pob rhiant yn cefnogi’r gymdeithas er mwyn cynorthwyo’r ysgol a hefyd i greu cysylltiad agos rhwng y cartref a’r ysgol.