Drama
Rhagair
Mae’r cwrs Drama yn cynnwys amrywiaeth o waith ymarferol, ymateb ysgrifenedig i berfformiad ac astudiaeth o ddramâu amrywiol. Bydd rhaid ymweld gyda’r theatr yn gyson a gwylio dramâu addas ar ffilm a theledu, er mwyn gwerthfawrogi perfformiad.
Bydd gwaith byrfyfyr yn rhan bwysig o’r cwrs er mwyn datblygu sgiliau perfformio o fewn grŵp ac fel unigolyn. Golyga hyn gryn dipyn o hunan ddisgyblaeth.
Asesu
Dyfeisio Theatr
40% |
Perfformio Theatr
20% |
Dehongli Theatr
40% |
Gweithio mewn grŵp i ddyfeisio perfformiad.
Gweithio ar thema arbennig ac astudio technegwyr drama. Cwblhau gwerthusiad ysgrifenedig. |
Asesiad di-arholiad.
Perfformiad yn seiliedig ar ddau ddarn 10 munud o destun o’u dewis. |
Arholiad Ysgrifenedig
1 ½ awr. Astudio un ddrama o safbwynt actor, cyfarwyddwr a chynllunydd technegol. Adolygiad o theatr fyw. |
Pam astudio Drama?
- Magu mwy o hyder
- Cyfle i ddatblygu sgiliau actio a sgiliau cyfathrebu sydd yn bwysig iawn ar gyfer unrhyw swydd.
- Cyfle i ddatrys problemau a gwneud gwaith grŵp
- Cynyddu dealltwriaeth o fyd y ddrama a byd y theatr
- Cael boddhad mawr wrth greu tasg ymarferol
- Dysgu sut i werthuso yn aeddfed.
- Deall a dadansoddi safbwyntiau gwahanol
- Gall disgybl o bob gallu fod yn llwyddiannus yn y pwnc