Yn draddodiadol, byddwn yn ysgrifennu atoch yn ystod yr hanner tymor yma er mwyn eich gwahodd i noson agored yr ysgol. Yn amlwg, o dan yr amodau presennol, nid yw hyn yn bosib. Serch hynny, rydym yn awyddus i rannu gwybodaeth gyda chi ynglŷn â’r Strade gan obeithio bydd hyn o gymorth i chi wrth ddechrau’r paratoadau trosglwyddo ar gyfer mis Medi 2021.
Yn hytrach nag ymweld â’r ysgol a derbyn cyflwyniad a thaith o amgylch y safle, rydym wedi paratoi cyfres o adnoddau i chi, gan gynnwys fideo pontio, ynghyd â gwybodaeth ynglŷn â threfniadau dydd i ddydd yr ysgol.
Gwelir isod ein fideos pontio a dolen i’r Sway sydd yn rhoi ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â threfniadau’r dydd, gwisg ac adnoddau.
Diolch am ddangos diddordeb yn Ysgol y Strade. Mae’n bleser cyflwyno’r llyfryn hwn at eich sylw fel darpar rieni’r ysgol.
Nid prosbectws yw’r llyfryn hwn ond rhagflas o fywyd ym mlwyddyn 7. Mae’r prosbectws wedi’i ddarparu gan y Cyngor, ond os ydych am gopi ychwanegol mae modd ei lawrlwytho o wefan yr ysgol.
Byddwch wedi cefnogi addysg Gymraeg ers i chi benderfynu danfon eich plentyn i dderbyn addysg gynradd Gymraeg, ac felly rydych yn gyfarwydd ag ethos Cymreig, cynnes a chyfeillgar ysgolion Cymraeg.
Bydd yr ysgol yn darparu amgylchedd diogel a gofalgar lle bydd pob disgybl yn cael y gefnogaeth a’r anogaeth i ddatblygu’n gymdeithasol ac yn ddeallusol.
Mae llunio partneriaeth rhwng y cartref a’r ysgol yn allweddol i ddatblygiad addysgol eich plentyn. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau fod pob plentyn yn cael y ddarpariaeth orau bosib a fydd yn rhoi’r dechreuad gorau mewn bywyd iddynt.
Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau presennol nad ydym yn gallu ymweld na gwahodd eich plentyn i’r Strade. Serch hyn, yn fuan ar ôl gwyliau’r Nadolig, fe fydd Miss Catrin Hughes (Pennaeth Safonau Blwyddyn 7) a Mrs Heulwen Jones (Pennaeth Cynorthwyol) hefyd yn ymweld â phob ysgol gynradd, yn rhithiol, er mwyn cynnig cyfle i’ch plentyn ofyn cwestiynau penodol ynglŷn â’r ysgol. Bydd hyn hefyd yn gyfle iddynt ymgyfarwyddo ag wynebau cyfarwydd y rhai sy’n bennaf gyfrifol dros eu lles a’r broses ymsefydlu wedi iddynt ddechrau yma yn Y Strade.
Mawr obeithiwn y bydd cyfle i gynnal gweithgareddau pontio byw yn y dyfodol agos.
Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol, a hi yw’r iaith a ddefnyddir yn y gweithgareddau allgyrsiol yn ogystal â’r ystafell ddosbarth ac ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol.
Disgwylir i’r disgyblion siarad Cymraeg ar bob achlysur.
Dysgir yr holl bynciau heblaw’r Saesneg trwy gyfrwng y Gymraeg ym Ml 7 ac 8 gyda’r opsiwn o ddilyn Mathemateg a Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Saesneg ym Ml.9.
Ein nod yw datblygu gallu a hyder y disgyblion i ddefnyddio’r iaith fel rhan o’u bywyd o ddydd i ddydd. Ceisiwn sicrhau nid yn unig bod y disgyblion yn ddwyieithog pan fyddant yn gadael yr ysgol ond hefyd eu bod yn ymwybodol o’u Cymreictod ac yn ymfalchïo ynddo.
Ceir yn Y Strade gyfleoedd di-ri i gyfoethogi defnydd o’r iaith Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu. Anogir y disgyblion i fanteisio ar y cyfle i fyw eu bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg a chael profiadau gwahanol, cyfleoedd newydd a dyfodol disglair.
Gofynnir yn garedig i rieni annog eu plant i fyw bywyd Cymraeg a Chymreig ar bob cyfle a thrwy hynny gryfhau eu hymwybyddiaeth o berthnasedd a gwerth yr iaith sy’n cael ei dysgu i’w plant, a chryfhau eu hymrwymiad iddi.
Gofynnir i rieni neu warcheidwaid arwyddo’r cytundeb cartref-ysgol a welir o fewn y Llyfr Cyswllt.
Ysgol Gymraeg sy’n darparu addysg ddwyieithog yw ein hysgol ni. Mae yna awyrgylch gymdeithasol hapus o fewn ein hysgol ac anogir y disgyblion i fod yn falch o’u hysgol, o’u cymdeithas a’u gwlad. Disgwylir i ddisgyblion siarad Cymraeg yn ystod diwrnod ysgol.
Mae’n bwysig bod disgyblion a rhieni yn sylweddoli hyn. Hoffem pe bai disgyblion a’u rhieni yn trafod hyn ac ymrwymo i gefnogi polisi iaith yr ysgol.
Darperir cludiant gan yr awdurdod addysg lleol ar gyfer disgyblion y dalgylch sy’n byw dros dair milltir i ffwrdd o’r ysgol. Pe bai problem yn codi o ran trefniadau cludiant, gofynnir i rieni gysylltu â’r Swyddfa Trafnidiaeth Ysgol yng Nghaerfyrddin ar 01267 234567.
Bydd bysus yn gadael arosfan yr ysgol am 3.20yh dan oruchwyliaeth aelodau Uwch Dîm Arwain yr ysgol.
Rydym yn croesawu disgyblion sydd yn gallu i seiclo i’r ysgol. Mae yna ddigonedd o le gennym ar y safle i gadw’r eiddo yn ddiogel.
Gwasanaeth Prydau Ysgol Cyngor Sir Gaerfyrddin sy’n gyfrifol am ddarparu bwyd i’r disgyblion yn ffreutur yr ysgol. Mae’r bwyd a ddarperir yn cwrdd â gofynion Blas am Oes, cynllun Llywodraeth Cymru ar fwyta’n iach.
Mae’r prydau yn cynnig amrywiaeth o fwyd maethlon a chytbwys am brisiau teg. Gwelir manylion y bwydlenni a’r prisiau ar wefan yr ysgol.
Gweinir bwydydd brecwast i ddisgyblion o 8.00 o’r gloch tan 8.30; byrbrydau amser egwyl o 10:45 o’r gloch tan 11:05 ac yna prydau bwyd amser cinio o 12:45 o’r gloch tan 1:35.
Gweithredir System Arlwyo ‘Ddi-arian Parod’ sy’n prosesu gwybodaeth fiometreg am ddisgyblion – mesuriadau digidol o ôl bys eich plentyn. Cyn mewnbynnu gwybodaeth fiometreg eich plentyn i’r system, bydd Gwasanaeth Arlwyo Sir Gaerfyrddin yn gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd yn gyntaf.
Bydd modd i chi dderbyn gwybodaeth o’r ysgol am yr hyn bydd eich plentyn yn dewis ei fwyta ar unrhyw adeg os dymunir.
Mae ffurflen ar gael ar y wefan ar gyfer gwneud cais am ginio am ddim (PYD).
Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gymuned ofalgar yma yn Y Strade a’n bod yn meithrin a chynnal hyder y disgyblion ynddynt eu hunain i gyrraedd y safonau gorau posib. Anogir hwy i gyrraedd eu llawn botensial fel y gallant wynebu bywyd y tu allan i’r ysgol gyda her. Wrth gyrraedd yr ysgol anogir pawb i siarad ag unigolion o ysgolion cynradd gwahanol er mwyn hybu’r datblygiad o ffrindiau newydd.
Fel arfer bydd y disgyblion yn aros yn eu dosbarthiadau cofrestru gwreiddiol, mewn un o bedwar Llys, drwy gydol blynyddoedd 7-11. Bydd y tiwtor dosbarth yn gwneud pob ymdrech i ddod i adnabod pob unigolyn yn ei ddosbarth yn dda. Bydd bob amser yn barod i wrando a chynnig cyngor am waith ysgol neu broblemau personol. Gwneir pob ymdrech i ofalu am les a hapusrwydd yr unigolyn, a chynnal yr ethos o deulu sydd gennym yma yn Y Strade. Atgyfnerthir gwaith a gofal y Tiwtor Dosbarth gan y Penaethiaid Safonau sy’n gyfrifol am y gwahanol flynyddoedd.
Gofynnir i rieni gysylltu â’r Pennaeth Safonau priodol os teimlant y dylai’r ysgol wybod am unrhyw broblem sy’n debygol o effeithio ar ddatblygiad academaidd, personol neu gymdeithasol eu plant. Gellir sicrhau’r rhieni y bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol a phroffesiynol a’i defnyddio er lles y plentyn yn unig.
Nid oes lle i fwlian yn ethos yr ysgol a cheisiwn sicrhau fod yr ysgol yn lle hapus i bawb. Ceisiwn atal bwlian rhag digwydd, ond os digwydd, fe’i cymerir o ddifrif. Mae gennym bolisi atal bwlian pendant a gwnawn ein gorau i greu hinsawdd lle mae disgyblion yn barod i drafod eu teimladau, ac yn ddigon hyderus i ddweud wrth athro os byddan nhw eu hunain yn cael eu bwlian neu os byddan nhw’n ymwybodol fod plentyn arall yn cael ei fwlian.
Mae Strade yn un teulu mawr hapus lle mae pawb yn edrych ar ein hôl ni.
Helpodd yr ysgol fi i wneud llawer o ffrindiau newydd pan ddechreuais i.
Ro’n i yn poeni am symud i’r Strade, ond doedd dim angen gan fod yr athrawon yn garedig ac yn rhoi llawer o help i fi.