Lles Disgyblion

Bydd disgybl wrth symud i’r Ysgol Gyfun yn symud o awyrgylch fach i sefyllfa llawer mwy o ran nifer y disgyblion a’r adeiladau. Fel canlyniad mae’n siwr o deimlo ychydig yn ansicr ar y dechrau.

Rhaid sicrhau felly y bydd y disgybl yn teimlo ei fod yn rhan o’r ysgol, a bydd yn bwysig i ddiogelu hyn yn enwedig gyda thyfiant yr ysgol.

Mae Tiwtor Dosbarth yn gyfrifol am bob grŵp a bydd yr athro/athrawes yn gyfrifol am gofrestru’r plant yn y bore a’r prynhawn, ac i gadw golwg ar ddatblygiad academaidd ac ymddygiad y plant o dan ei ofal. Bydd y Pennaeth Safonau yn gyfrifol am gysylltu gwaith y Tiwtoriaid Dosbarth.

Penaethiaid Safonau

  • Blwyddyn 7
  • Blwyddyn 8
  • Blwyddyn 9
  • Blwyddyn 10
  • Blwyddyn 11
  • Blwyddyn 12 & 13
  • : Miss Catrin Hughes
  • : Mr Berian Davies
  • : Mr Jonathan Lewis
  • : Mr Alun Jones
  • : Mr D Arnold James
  • : Mrs Carys Morgan

Cysylltir â rhieni yn uniongyrchol os oes problemau’n codi.