Rydym oll yn Ysgol Y Strade ym ymrwymedig i sicrhau bod yr holl blant sy’n mynychu’r ysgol yn cael yr addysg orau posib a’u bod yn cael cefnogaeth i gyflawni eu potensial llawn. Ffactor allweddol er mwyn gwireddu hyn yw sicrhau presenoldeb uchel gyda chyswllt clir rhwng presenoldeb a chyflawniad. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob plentyn fynychu’r ysgol o leiaf 95% o’r amser. Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd felly yn gwbl hanfodol er mwyn i’r plant lwyddo yn y dyfodol. 

Pan mae eich plentyn yn absennol, mae disgwyl i chi gysylltu â’r ysgol ar y diwrnod cyntaf o salwch. Gallwch gysylltu trwy ffonio’r ysgol; anfon neges drwy Classcharts neu anfon e-bost at Swyddog Presenoldeb yr ysgol swyddfa@ysgolystrade.org  

 

Mae polisi penodol gennym sydd i’w weld ar y wefan o dan yr ddolen Polisiau   

Gwerthfawrogwn eich cydweithrediad er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn mynychu’r ysgol. 

Nid yw peidio â mynd i’r ysgol yn rheolaidd, a cholli diwrnod yma a thraw, yn ymddangos yn llawer, ond mae absenoldebau yn cronni. Mae dau ddiwrnod y mis yn hafal i bedair wythnos y flwyddyn, sy’n golygu colli dros flwyddyn o ddysgu rhwng Blwyddyn 1 a Blwyddyn 13. 

Mae pob diwrnod ysgol yn cyfrif. Mae pob diwrnod a gollir yn ei gwneud hi’n anoddach dal i fyny, gall arwain at gyflawniadau is o ran darllen, ysgrifennu a rhifedd, ac mae’n effeithio ar allu plentyn i wneud cysylltiadau cymdeithasol pwysig. 

Mae llawer o resymau pam y dylai plentyn fynd i’r ysgol, sef: 

  • Dysgu 
  • Datblygu hyder a hunan-barch 
  • Deall cyfrifoldeb 
  • Datblygu sgiliau newydd 
  • Tyfu fel unigolion 
  • Ennill cymwysterau 
  • Gwneud ffrindiau newydd, cael hwyl a datblygu sgiliau bywyd 
  • Datblygu ymwybyddiaeth o ddiwylliannau eraill 

Mae presenoldeb rhagorol yn yr ysgol yn caniatáu i blentyn gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. 

Rhiant/Gwarchodwr – Sut i Gefnogi eich plentyn:  

  • Sicrhau bod eich plentyn yn deall beth yw pwysigrwydd presenoldeb a phrydlondeb da.  
  • Cymerwch diddordeb yn addysg eich plentyn – gofynnwch cwestiynau iddynt am waith Ysgol, anogwch nhw i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yr Ysgol.  
  • Trafodwch unrhyw broblemau efallai sydd wedi codi yn yr Ysgol gyda’ch plentyn ac yna cysylltwch gyda Tîm Bugeiliol er mwyn i drefnu cymorth o fewn yr Ysgol.
  • Gwrthod gadael i’ch plentyn gael diwrnodau i ffwrdd pan nad ydynt yn sâl.  
  • Trefnu apwyntiadau os yn bosib ar ôl oriau Ysgol, ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau Ysgol.  
  • Bod yn agored ac yn barod i gyd-weithio gyda’r Ysgol er lles presenoldeb eich plentyn.  
  • Sicrhau bod eich plentyn yn cael digon o gwsg ac yn codi ar amser.

Disgybl – Sut allai wella?  

  • Siarad gydag aelod o staff neu oedolyn am resymau pam nad wyt am ddod i’r Ysgol.
  • Gwneud dy orau i geisio codi bob bore a dod ir Ysgol bob dydd, oni bai dy fod yn sâl iawn.
  • Mynd i’r gwely’n gynnar er mwyn cael noson dda o gwsg.
  • Sicrhau dy fod yn dod i’r Ysgol ar amser bob dydd.