Chwaraeon (Galwediagaethol)

Rhagair

Hyd y cwrs: 2 flynedd

Mae’r cwrs yn cyfateb i 1 TGAU : A* – C

Pam astudio Chwaraeon?

  • Cynlluniwyd strwythur y cymhwyster er mwyn cyflwyno’r dysgwyr i amrywiaeth eang o wybodaeth a dealltwriaeth sy’n angenrheidiol mewn perthynas â chwaraeon. Bydd dysgwyr hefyd yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy, megis cynllunio, cyfathrebu a gwerthuso sy’n eu helpu i fynd ymlaen i addysg bellach a hyfforddiant. Mae pob uned yn rhoi’r cyfle i’r dysgwyr gymhwyso’r hyn a ddysgwyd gand dynt drwy dasgau sy’n cynnwys llawer o nodweddion gwaith go iawn yn y diwydiant chwaraeon.
  • Bydd tystiolaeth asesu yn gallu cael ei gynhyrchu drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys gwaith cwrs, asesiad yn y lle gwaith, chwarae rôl neu gyflwyniad llafar. Bydd 1 Uned (Uned 2)yn cael eu hasesu’n allanol ar ffurf asesiad o dan rheolaeth, 6 awr. Ni fydd arholiad traddodiadol.
  • Bydd y cwrs yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a thechnegau, rinweddau personol ac agweddau angenrheidiol tuag at berfformiad llwyddiannus yn y byd gwaith.
  • Bydd y cymhwyster o gymorth wrth symud ymlaen i astudio cymwysterau pellach – BTEC Cenedlaethol ym mlwyddyn 12/13 lefel 3 (cyfateb i Lefel A)

Asesu

Er mwyn pasio yr uned mae rhaid cyflwyno pob canlyniad dysgu ar gyfer yr uned. Mae’r meini prawf graddio yn cynnwys:

  • Gradd llwyddo=  C TGAU
  • Gradd deilyngdod= B TGAU

Gradd anrhydedd= A/A* TGAU

Corff Arholi


 Cyswllt Pwnc: Mr Deiniol Evans