Gwyddoniaeth
Rhagair
Ym mlwyddyn 10 ac 11, fe fydd myfyrwyr yn astudio ar gyfer cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth (dwyradd). Mae’r cymhwyster hwn yn annog dysgwyr i ddatblygu eu hyder mewn gwyddoniaeth, ac i feithrin agwedd gadarnhaol tuag at y pwnc ac i gydnabod pwysigrwydd gwyddoniaeth yn eu bywydau bob dydd ac i’r gymdeithas.
Mae’r cwrs yn cynnwys chwech uned o waith sy’n cael eu hasesu yn allanol trwy sefyll arholiadau yn ystod tymor yr Haf ym mlwyddyn 10 ac 11. Mae’r cwestiynau yn gymysgedd o gwestiynau atebion byr, cwestiynau strwythuredig, ysgrifennu estynedig a chwestiynau ymateb i ddata gyda rhai ohonynt wedi’u gosod mewn cyd-destun ymarferol.
Yn ogystal â hyn fe fydd un asesiad ymarferol yn ystod tymor y Gwanwyn ym mlwyddyn 11.
Bydd cwblhau’r cwrs yn cyfateb a dwy radd TGAU.
Asesu
Blwyddyn 10 |
Bioleg 1
(15%) Haf 2019 |
Cemeg 1
(15%) Haf 2019 |
Ffiseg 1
(15%) Haf 2019 |
|
Blwyddyn 11 |
Bioleg 2
(15%) Haf 2020 |
Cemeg 2
(15%) Haf 2020 |
Ffiseg 2
(15%) Haf 2020 |
Asesiad ymarferol (10%)
Gwanwyn 2020 |