Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Rhagair
Ystyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yw unrhyw dechnoleg a ddefnyddir i roi neu ddod o hyd i wybodaeth neu i gyfathrebu. Ymysg yr enghreifftiau amlwg mae cyfrifiaduron, y Rhyngrwyd, e-bost, ffonau symudol, a hyd yn oed teledu a radio digidol.
Mae cwrs TGAU TGCh CBAC yma yn rhoi cyfle i ddisgyblion datblygu eu sgiliau TGCh a deall mwy am gyfrifiaduron a’i effaith ar fywydau pob dydd.
Bydd y cwrs yma yn caniatáu i ddysgwyr:
- ddod yn ddefnyddwyr TGCh annibynnol a deallus, gyda’r gallu i wneud penderfyniadau gwybodus o’i defnydd;
- dysgu a gweithredu sgiliau creadigol a thechnegol;
- datblygu dealltwriaeth o TGCh mewn ystod o gyd-destunau;
- defnyddio TGCh i ddatrys problemau;
- datblygu dealltwriaeth o faterion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol sy’n codi â TGCh;
- gwerthuso systemau wedi ei seilio ar TGCh.
Asesu
Uned 1 | Dealltwriaeth TGCh
Arholiad 20% |
Papur arholiad sy’n asesu gwybodaeth am TGCh a
sut y defnyddir mewn cyd-destun y cartref a’r ysgol. |
Uned 2 | Datrys Problemau gyda TGCh
Asesiad dan Reolaeth 30% |
Asesiad ymarferol o dan reolaeth sy’n cynnwys
portffolio o waith ar gyfer problem busnes. Bydd disgyblion yn defnyddio Word, Publisher, taenlen Excel, cronfa data Access a meddalwedd e-bost i gwblhau’r dasg. |
Uned 3 | TGCh mewn Sefydliadau
Arholiad 20% |
Papur arholiad ar gynnwys ‘cymhwysiad’ TGCh mewn
cyd-destun busnes a diwydiant. |
Uned 4 | Datblygu TGCh Amlgyfrwng
Asesiad dan Reolaeth 30% |
Asesiad ymarferol o dan reolaeth sy’n rhoi’r cyfle i
chi ddatblygu cynnyrch rhyngweithiol trwy ddefnyddio meddalwedd amlgyfrwng yn dilyn briff. Bydd y cynnyrch terfynol yn cynnwys delweddau, animeiddiadau a sain. Bydd disgyblion yn defnyddio meddalwedd Microsoft a Serif yn yr uned yma. |