Sefydlwyd Ysgol Gyfun Y Strade ym 1977 fel Ysgol Gyfun Ddwyieithog i fechgyn a merched rhwng 11 a 18+ oed.
Mae’r ysgol yn ymrwymo ei hun fel sefydliad i gynnal a chodi safonau gwaith ac ymddygiad y disgyblion ac i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg mewn cymuned ddwyieithog. Mae cynllun datblygiad a thargedau gwelliant blynyddol yr ysgol yn cyfeirio at y prif nodau hyn.
Mae staff a disgyblion Y Strade yn gweithio’n egnïol i gynnal arwyddair yr ysgol, sef …
“Nid da lle gellir gwell”
Sioe Ysgol – Yma o Hyd
Yma yn Llanelli, mae cefnogwyr rygbi wedi hen arfer â chlywed ‘Yma o Hyd’ yn cael ei chanu ar Barc y Sgarlets, ac mae llais Dafydd Iwan wedi bod yn gyfarwydd iawn i ddilynwyr y bêl hirgron ers blynyddoedd. Ond yn ddiweddar, ers i dîm pêl droed Cymru fabwysiadu’r gân fel ei hail anthem genedlaethol, mae llais a wyneb Dafydd Iwan wedi dod yn adnabyddus i genhedlaeth newydd o Gymry, a hyd yn oed yn rhyngwladol.
Mae’n bleser gan Ysgol y Strade gyflwyno’r sioe newydd hon i ddathlu hanes a cherddoriaeth y gwladgarwr eiconig hwn. Diolch i Dafydd am ei ganiatad a’i sêl bendith.