Cyngerdd Nadolig
Pleser yw tynnu eich sylw at Gyngerdd Nadolig Ysgol Y Strade eleni.
Cynhelir y cyngerdd yng Nghapel Greenfield, Llanelli ar nos Iau Rhagfyr y 1af, 2022 am 7 y.h.
Mae tocynnau yn £5 i oedolion a £3 i blant (ar gael o swyddfa’r ysgol neu wrth y drws). Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Gegin Gawl Capel Greenfield ac apêl Eisteddfod yr Urdd 2023.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.