Cwnsela Ysgol
Mae Ardal43 yn elusen sydd wedi bod yn darparu cymorth a gwybodaeth i bobl ifanc ers 1996. Maent yn cynnig cymorth annibynnol i bobl ifanc o fewn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac mae’r cymorth ar gael i bob unigolyn rhwng 10 a 18 o fewn ysgolion.
Mae’r cymorth maent yn ei roi yn hollol gyfrinachol ac yn cynorthwyo disgyblion gyda phob math o anghenion. Mae pob cwnselydd sydd yn gweithio yn Ysgol Y Strade wedi derbyn hyfforddiant llawn ac yn gymwys i gefnogi disgyblion o bob cefndir.
Mae unrhyw gyfeiriad at y cwnselydd yn cael ei drin gyda chyfrinachedd llwyr ac nid yw’r cwnselwyr yn trafod materion y disgybl gydag unrhyw aelod o staff. Yr unig sefyllfa pan fydd rhaid rhannu gwybodaeth yw pan mae yna faterion diogelu neu amddiffyn plant yn codi.
Plant
Gallwch gyfeirio eich hun i’r cwnselydd drwy:
- Gysylltu â Mrs Heulwen Jones yn ei swyddfa.
- Trafod y mater gyda’ch tiwtor dosbarth/Pennaeth Safonau
- Cysylltu yn uniongyrchol ar 0800 0385778
- E-bostio – counselling@area43.co.uk
Rhaid ystyried efallai bydd yna gyfnod o aros nes bod apwyntiad yn rhydd. Mae’r cwnselwyr yn bresennol yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Iau a Gwener ac mae sesiynau rhwng awr a 45m o hyd.
Rhieni
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth neu am gymorth, croeso i chi gysylltu â Mrs Heulwen Jones yn yr ysgol, yn uniongyrchol ar 0800 0385778 neu drwy e-bost counselling@area43.co.uk
Rhaid ystyried efallai bydd yna gyfnod o aros nes bod apwyntiad yn rhydd. Mae’r cwnselwyr yn bresennol yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Iau a Gwener ac mae sesiynau rhwng awr a 45m o hyd.
Rhifau Ffôn Defnyddiol
Cysylltu
area43cardigan
Cyfeiriad
1 Pont y Cleifion,
Aberteifi,
Ceredigion,
SA43 1DW