Amddiffyn a Diogelu Plant
Mae Ysgol Y Strade yn rhoi blaenoriaeth llawn i les a diogelwch ei disgyblion.
Ein nod yw sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i ddysgu mewn amgylchedd diogel, cefnogol a gofalgar, gan eu galluogi i feithrin hyder a chred yn eu galluoedd eu hun.
Mae gan yr ysgol drefniadau clir a chadarn ar waith i ddiogelu plant, ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â rhieni/gofalwyr ac asiantaethau perthnasol.
Rydym yn gweithredu’n unol â Chanllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan, a gallwch ddod o hyd i’n polisi diogelu ar y dudalen 🔗Polisïau
Mae staff allweddol o fewn yr ysgol yn gyfrifol am faterion sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, sydd wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol. Y staff allweddol yma yw:
- Mrs Heulwen Jones (Swyddog Diogelu Plant / Person Dynodegig)
- Mr Daniel Hughes (Dirprwy Swyddog Diogelu Plant)
- Mr Steffan Rogers (Llywodraethwr a Chyfrifoldeb dros Ddiogelu Plant)
Os oes gennych gonsyrn sy’n ymwneud â’r Pennaeth, rhaid cysylltu’n uniongyrchol â Chadeirydd y Llywodraethwyr Mr Gareth Beynon-Thomas trwy e-bost Beyn-ThomG1@Hwbcymru.net.
Operation Encompass
Diogelwch Ar-lein
Yn Ysgol Y Strade, rydym yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo diogelwch ar-lein ac ymddygiad ar-lein cadarnhaol.
Mae gan y dudalen hon ddolenni defnyddiol i adnoddau e-ddiogelwch ar gyfer dysgwyr a rhieni, yn cynnwys wybodaeth am seiberfwlio, cyfyngiadau oedran apiau cyfryngau cymdeithasol, amser sgrin a llawer mwy.
Mae’r ysgol yn gweithio tuag at yr achrediad 360 Safe Cymru.
Cliciwch yma i weld ein tudalen Diogelwch ar-lein sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i ddysgwyr a rhieni am gadw’n ddiogel ar apiau benodol.









