Diogelwch Ar-lein
Yn Ysgol Y Strade, rydym yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo diogelwch ar-lein ac ymddygiad ar-lein cadarnhaol.
Mae gan y dudalen hon ddolenni defnyddiol i adnoddau e-ddiogelwch ar gyfer dysgwyr a rhieni, yn cynnwys wybodaeth am seiberfwlio, cyfyngiadau oedran apiau cyfryngau cymdeithasol, amser sgrin a llawer mwy.
Mae’r ysgol yn gweithio tuag at yr achrediad 360 Safe Cymru.
Bydd Gwybodus – Canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd
Mae’r casgliad hwn o ganllawiau yn darparu gwybodaeth allweddol i rieni a gofalwyr ynghylch y cyfryngau cymdeithasol a’r apiau gemau mwyaf poblogaidd ymysg plant a phobl ifanc heddiw.
Cliciwch yma i agor yr adnodd (ar wefan Hwb)
Cadw’n Ddiogel Ar Lein – Adran ar wefan Hwb
Mae’r adran yma o wefan Hwb yn cynnwys ‘Bydd Gwybodus’ (welir uchod), a llawer mwy. Mae yma adnoddau a gwybodaeth i rieni, dysgwyr, athrawon a chymuned ehangach yr ysgol.
Cliciwch yma i agor yr adnodd (ar wefan Hwb)