Beth yw’r GDD?
Mae’r Grant Datblygu Disgyblion (GDD) mewn ysgolion Cymru yn fenter gan y llywodraeth i gefnogi dysgwyr difreintiedig, yn bennaf y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYD), plant sydd wedi’u mabwysiadu, a phlant sy’n derbyn gofal. Prif nod y grant yw helpu i gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng y dysgwyr hyn a’u cyfoedion drwy ddarparu cyllid ychwanegol i ysgolion.
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r GDD i fynd i’r afael â rhwystrau i ddysgu, fel gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd, hyrwyddo llesiant, ac annog mwy o ymgysylltiad â dysgu. Gellir gwario’r cyllid ar amrywiaeth o ymyriadau, gan gynnwys cymorth addysgu wedi’i dargedu, rhaglenni ôl-ysgol, gweithgareddau ymgysylltu â theuluoedd, a datblygiad proffesiynol i staff. Rhaid i ysgolion ddangos sut mae’r grant wedi gwella canlyniadau i ddisgyblion difreintiedig a sicrhau ei fod yn cael ei wario mewn ffordd sy’n fuddiol yn uniongyrchol i’r dysgwyr hyn.
Am y flwyddyn academiadd 2024-25, mae gan Ysgol Y Strade grant datblygu disgyblion o £164,450.00.
Y Cynllun am 2024-25
Ymgysylltiad Rhieni
Bydd y Swyddog Presenoldeb yn gweithio’n agos gyda rhieni myfyrwyr sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (PYD) i wella presenoldeb cyffredinol, gan gynnwys ymgysylltu â digwyddiadau ysgol megis nosweithiau rhieni. Bydd galwadau ffôn rheolaidd yn cael eu gwneud i gynnal cyfathrebu, gan gynnig cefnogaeth ac arweiniad i helpu i oresgyn rhwystrau presenoldeb. Bydd y rôl hon yn cynnwys cydweithio’n agos gyda’r Pennaeth Blwyddyn i fynd i’r afael â phryderon bugeiliol a darparu cymorth ychwanegol lle bod angen.
Hyfforddwr dysgu ag ymyrraeth llythrennedd
Dyma le penodol sy’n darparu cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion a allai fel arall wynebu anhawster i gyflawni eu graddau targed yn 16 oed. Mae gennym dri hyfforddwr dysgu penodol a fydd yn darparu cefnogaeth, arweiniad, mentora a hyfforddiant i unigolion a grwpiau o ddysgwyr. Bydd ymyriadau a chymorth yn cael eu teilwra’n benodol i’r unigolyn.
Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA)
Mae’r ddarpariaeth yn caniatáu i ddysgwyr gael mynediad 5 diwrnod yr wythnos, ac ar ben hynny mae’r ystafell ar agor i ymweliadau achlysurol yn ystod amser egwyl ac amser cinio. Y bwriad yw cynllunio a chyflwyno rhaglenni cymorth unigol (a grŵpiau bach). Canlyniad hyn: Helpu dysgwyr i gydnabod, deall a rheoli emosiynau i gynyddu llwyddiant. Datblygu sgiliau cymdeithasol a sgiliau cyfeillgarwch.
Cymorth ymddygiad
Darpariaeth cymorth ymddygiad a llesiant Y Strade. Cynhelir gwersi ymddygiad a llesiant yn y ddarpariaeth, ynghyd â hwyluso amserlenni pwrpasol ar gyfer dysgwyr gydag ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer PYD (dysgwyr difreintiedig).