Gwisg Ysgol (Bl.7-11)

Gwisg Ysgol (Y Chweched)

Mae myfyrwyr Y Chweched yn cynnal safonau gwisg yr ysgol gan fod yn y esiampl i weddill y disgyblion drwy wisgo:

  • Siwmper neu gardigan swyddogol
  • Trowsus neu sgert ddu syth (i’r merched).
  • Crys gwyn
  • Tei Swyddogol Y Chweched.

Mae’r wisg ysgol yn unol â pholisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion Llywodraeth Cymru, gweler y ddolen am fwy o wybodaeth ynglŷn â chanllawiau Llywodraeth Cymru https://www.llyw.cymru/polisiau-gwisg-ysgol-ac-edrychiad-disgyblion-canllawiau-ar-gyfer-cyrff-llywodraethu-html

Ble i Brynu’r Wisg?

Mi fyddwch yn medru prynu’r wisg o ddau gyflenwad lleol, Picton Sports a Toppers, yn ogystal â siopau stryd fawr y dref. Noder bydd angen bathodyn yr ysgol ar bob siwmper. Mae cwmni Picton Sports a Toppers yn cynnig y gwasanaeth yma am bris rhesymol.

❌ Ni chaniateir i ddisgybl wisgo:

  • Esgidiau ymarfer lliwgar na ‘Converse’.
  • Clustdlysau – dim ond styds yn unig – un ym mhob clust, i’w gwisgo ar waelod y glust yn unig.
  • Styds na modrwy ar unrhyw ran arall o’r corff e.e. y trwyn, aeliau a.y.b.
  • Mwy nag un fodrwy ar bob llaw.
  • Siwmper/crys chwys/hwdi/siaced lliw o unrhyw fath.
  • Esgidiau heb sanau/teits.
  • Crys/blows tu allan i drowsus/sgert.
  • Colur/Gwinedd ffals.
  • Gwallt wedi’i liwio neu’i steilio’n eithafol.
  • Siacedi lledr neu denim.

💡Tip: 

Cofiwch labeli bob eitem o wisg ysgol eich plentyn. Mae achosion yn gallu codi lle mae disgybl yn colli dilledyn, yn enwedig cotiau, sy’n gallu bod yn eitemau drud. Heb enw clir, mae’n amhosib sicrhau bod y dilledyn yn cael ei ddychwelyd i’r person cywir.