Teithio a Twristiaeth
Rhagair
Mae’r sector teithio a thwristiaeth werth dros $US7.6 triliwn i economi’r byd ac yn cyflogi dros 292 miliwn o bobl yn fyd-eang. Nod y cymhwyster yma yw darparu cwrs sy’n gysylltiedig â gwaith yn y sector teithio a thwristiaeth. Fe’u datblygwyd i ddarparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol i baratoi dysgwyr ar gyfer y byd gwaith.
Cynnwys y Cwrs
Mae’r cwrs yn ymdrin â’r agweddau canlynol:
- Sector diwydiant teithio a thwristiaeth a’r effaith ar yr economi
- Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid
- Daearyddiaeth cyrchfannau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol
- Ymwybyddiaeth fusnes
Asesu
Yn ystod y cwrs, fe fydd y disgyblion yn astudio’r unedau canlynol: –
Uned | Asesu |
Uned 1 – Y Sector Teithio a Thwristiaeth yn y DU | Arholiad allanol |
Uned 2 – Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth y DU | Gwaith cwrs |
Uned 4 – Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol | Gwaith cwrs |
Uned 5 – Ffactorau sydd yn Effeithio Teithio a Thwristiaeth Byd-Eang | Gwaith Cwrs |
Bydd y disgyblion yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 sydd yn cyfateb ag un TGAU llawn. Mi fydd y cymhwyster yn cael ei raddio fel yr isod:
Gradd: | Cyfateb a gradd TGAU: |
Anrhydedd |
A |
Teilyngdod |
B |
Llwyddo |
C |
Mi fydd y cymhwyster yn cael ei asesu drwy arholiad allanol sydd yn cael ei osod gan Edexcel Pearson a gwaith cwrs mewnol.