Hanes
Rhagair
Beth yw Gwerth Astudio Hanes?
- Datblygu sgiliau addysgiadol megis darllen a deall, dadansoddi, distyllu ac allosod.
- Cyflwyno myfyrwyr i syniadau pwysig megis newid a pharhâd ac achos a chanlyniad.
- Deall bod gwahanol ddehongliadau mewn hanes.
- Hanfodol i ddeall y byd rydym yn byw ynddo.
- Esbonio sut mae ein hardal wedi datblygu.
- Ein helpu i fod yn well dinasyddion.
Cynnwys y cwrs ag Asesu
Y mae dair rhan i’r cwrs
1. Astudiaeth Fanwl – dau bapur arholiad, awr yr un. (25% yr un o’r cymhwyster)
a) Dirwasgiad, Rhyfel ac Adferiad 1930-1951
- Effaith Blynyddoedd y Dirwasgiad
- Effaith yr Ail Ryfel Byd ar y Ffrynt Cartref
- Datblygiadau Gwleidyddol, Economaidd a Chymdeithasol ar ôl yr Ail Ryfel Byd
a) Yr Almaen Mewn Cyfnod o Newid 1919-1939
- Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf a gwendidau Gweriniaeth Weimar
- Ymddangosiad y Blaid Natsïaidd ac Atgyfnerthu Grym 1929-1934
- Bywyd pobl yr Almaen yn Newid 1933-1939
- Polisi Tramor Hitler hyd at 1939
2. Astudiaeth Thematig o berspectif hanesyddol eang – un papur arholiad, awr a phymtheg munud (30% o’r cymhwyster)
- Newidiadau ym maes Iechyd a Meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw
- Prif achosion afiechyd – e.e Y Pla Du
- Ymdrechion i drin a gwella afiechydon – datblygiad anaesthetig, Marie Curie
- Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygol – datblygu technegau sganio yn ystod yr ugeinfed ganrif, Pelydrau X, MRI, Darganfod DNA
3. Gwaith Cwrs – Asesiad Di-arholiad (20% o’r cymhwyster)
- Merched Beca